Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 13 Mehefin 2019
Amser:
09.30 -
12.48
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5537
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Helen Mary Jones AC Lynne Neagle AC David Rees AC |
Tystion: |
Steve Moore, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Joe Teape, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Dr Philip Kloer, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Carol Shillabeer, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Rhiannon Jones, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Hayley Thomas, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Wyn Parry, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Dawn Bowden AC.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AC. Dirprwyodd Darren Millar AC ar ei rhan.
2.1 O ran gofal llygaid, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu’r ffigurau ar gyfer nifer y cleifion sydd wedi colli eu golwg neu sydd â’u golwg wedi gwaethygu o ganlyniad i oedi i gael triniaeth.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n gofyn am wybodaeth am nifer o bwyntiau nad oedd gan yr Aelodau amser i'w trafod yn ystod y sesiwn.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Yn ogystal â’r pwyntiau uchod, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn gofyn am ragor o wybodaeth am y mesurau sydd ar waith i ymdrin â'r galw cynyddol am asesu plant yn y gwasanaeth CAMHS, gan gynnwys y rhai sy'n aros yn hwy na'r amseroedd targed.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno arno.
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar nifer o gwestiynau i’w hanfon at y Panel Goruchwylio Annibynnol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth ymlaen llaw cyn iddo ymddangos gerbron y Pwyllgor ar 17 Gorffennaf 2019.